Care and support at home needs to improve

Please scroll down for Welsh version

SCW Eng ver

There must be a systematic change to the way care and support at home is provided if we are to continue to meet people’s needs, says a new strategic plan for Wales. 

The five-year plan, developed by the Care Council for Wales in partnership with local authorities and the social care, health and housing sectors, aims to improve care and support at home and address current concerns with the system. It recognises that change can only be achieved in collaboration.

It is the first document to be issued by Social Care Wales, a key national leadership body for supporting and improving social care in Wales, which will replace and build on the existing responsibilities of the Care Council, and come into being on 3 April.

The Minister for Social Services and Public Health, Rebecca Evans AM, will endorse and help launch the plan today at 12.15pm in City Hall, Cardiff.

The plan responds, in part, to the Welsh Government consultation on terms and conditions for the domiciliary care workforce and the Care and Social Services Inspectorate Wales’s national review of domiciliary care in Wales.

It sets out a vision for change in which “people in Wales work together to improve well-being through care and support at home” and identifies six main areas for attention. They are:

  • Make sure people who need care and support, and carers, are equal partners in decisions about their support.
  • Care and support at home needs to be built around families and communities.
  • Care and support at home needs to support personal outcomes and meet different needs.
  • Investment is needed in a range of good-quality options that help people stay independent and well in their own homes.
  • Make sure the workforce has the knowledge, skills and values to provide care and support at home.
  • Design care and support at home on the best evidence from academic and practice-based research.

The plan also explores the current provision of care and support at home and why change is needed. It’s accompanied by a supporting document that features examples from across Wales of the different ways in which care and support at home can work effectively.

Minister for Social Services and Public Health, Rebecca Evans, said: “We recognise domiciliary care as a sector of national strategic importance because it plays a crucial role in helping people to stay at home and maintain their independence.

“We are committed to supporting our partners to implement this new five-year plan, which will help us achieve our aim of improving social care for people across Wales.”

Sue Evans, Chief Executive of the Care Council for Wales, said: “People want to live at home for as long as they can, and care and support at home makes this possible. During 2014-15 96 per cent of care and support at home in Wales was provided by 370,000 unpaid carers. But their voices and those of the people who receive care and support often go unheard as the current system is organised around formal, inflexible structures.

“As Social Care Wales, we will be registering domiciliary care workers who provide care and support at home from 2018 onwards. This will help provide a better qualified and valued workforce but recruitment and retention challenges will remain until pay and conditions improve, with a recognition that quality costs.

“This new five-year plan recommends a systematic change that puts people’s needs first. It encourages people and organisations to work better together and highlights the areas that must change if we are to achieve this.

 “There are lots of incredible people working in the social care sector who do an excellent job day-in, day-out. They’re crucial to the success of this plan and we must make sure they’re supported, too, as it can only be delivered with a confident, skilled and knowledgeable workforce. This plan was produced in partnership, and must be delivered in partnership, so we can have a strong, effective and flexible system that Wales can be proud of.”

 

SCW Welsh ver

Angen gwella gofal a chymorth yn y cartref

Mae angen newid y ffordd o ddarparu gofal a chymorth yn y cartref yn llwyr, os ydym yn parhau i ddiwallu anghenion pobl – dyna ddywed cynllun strategol newydd i Gymru.

Nod y cynllun pum mlynedd yw gwella gofal a chymorth yn y cartref a mynd i’r afael â phryderon presennol ynghylch y system. Cafodd y cynllun strategol ei ddatblygu gan y Cyngor Gofal mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a’r sectorau gofal cymdeithasol, iechyd a thai. Mae’n cydnabod mai dim ond trwy gydweithredu y mae newid yn bosib.

Dyma’r ddogfen gyntaf i’w chyhoeddi gan Gofal Cymdeithasol Cymru, corff cenedlaethol arweiniol allweddol ar gyfer cefnogi a gwella gofal cymdeithasol yng Nghymru, a fydd yn disodli ac adeiladu ar gyfrifoldebau presennol y Cyngor Gofal. Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn dod i fodolaeth 3 Ebrill.

Bydd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans AC, yn cefnogi a helpu lansio’r cynllun am 12.15pm yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Mae’r cynllun yn ymateb, yn rhannol, i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu gofal cartref ac adolygiad cenedlaethol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i ofal cartref yng Nghymru.

Mae’r cynllun yn cyflwyno’r weledigaeth ar gyfer newid, lle mae “pobl yng Nghymru yn cydweithio er mwyn gwella llesiant trwy ofal a chymorth yn y cartref” ac yn nodi’r chwe phrif faes sydd angen sylw, sef:

·         Gofalu fod pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr, yn bartneriaid cyfartal mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â’u gofal.

·         Mae angen i anghenion gofal a chymorth yn y cartref fod wedi’u seilio ar deuluoedd a chymunedau.

·         Mae angen i ofal a chymorth yn y cartref gefnogi canlyniadau personol a diwallu anghenion gwahanol.

·         Mae angen buddsoddi mewn amrywiaeth o opsiynau o ansawdd da sy’n helpu pobl i barhau’n annibynnol ac yn iach yn eu cartrefi eu hunain.

·         Gofalu bod gan y gweithlu y sgiliau, y wybodaeth a’r gwerthoedd i ddarparu gofal a chymorth yn y cartref.

·         Cynllunio gofal a chymorth yn y cartref ar sail y dystiolaeth orau gan waith ymchwil academaidd ac ymchwil seiliedig ar ymarfer.

Ar ben hynny, mae’r cynllun yn archwilio’r ddarpariaeth gyfredol o ofal a chymorth yn y cartref a pham mae angen newid. Mae dogfennau ategol gyda’r cynllun sy’n cynnwys enghreifftiau o Gymru sy’n dangos y ffyrdd gwahanol y gall gofal a chymorth yn y cartref weithio’n effeithiol.

Meddai’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans: “Rydym yn cydnabod bod gofal cartref yn sector o bwys strategol cenedlaethol oherwydd ei fod yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i aros gartref a chadw eu hannibyniaeth.

“Rydym yn ymrwymo i gefnogi ein partneriaid wrth weithredu’r cynllun pum mlynedd newydd hwn a fydd yn helpu i gyflawni ein nod o wella gofal cymdeithasol i bobl ledled Cymru.”

Meddai Sue Evans, Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru: “Mae pobl eisiau byw yn eu cartref cyhyd ag y gallant, ac mae gofal a chymorth yn y cartref yn golygu bod hyn yn bosib. Yn ystod 2014-15, cafodd 96 y cant o ofal a chymorth yn y cartref yng Nghymru ei ddarparu gan 370,000 o ofalwyr di-dâl. Ond does fawr neb yn clywed eu lleisiau nhw na’r rhai sy’n derbyn gofal a chymorth, gan fod y system bresennol yn canolbwyntio ar strwythurau gofal ffurfiol ac anhyblyg.

“Fel Gofal Cymdeithasol Cymru, o 2018 ymlaen byddwn yn cofrestru gweithwyr gofal cartref sy’n rhoi gofal a chymorth yn y cartref. Bydd hyn yn gymorth i greu gweithlu mwy cymwys, ac un sy’n cael ei werthfawrogi’n well, ond bydd yr heriau wrth recriwtio a chadw gweithwyr yn parhau tan y bydd cyflogau ac amodau’r swydd yn gwella, ac mae’n rhaid derbyn bod ansawdd yn costio.

“Mae’r cynllun pum mlynedd newydd hwn yn argymell newid systematig sy’n rhoi anghenion pobl yn gyntaf. Mae’n annog pobl a sefydliadau i gydweithio’n well ac yn pwysleisio’r meysydd y mae’n rhaid eu newid er mwyn cyflawni hyn.

“Mae yna lawer o bobl anhygoel yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, sy’n gwneud gwaith rhagorol o ddydd i ddydd. Maen nhw’n hollbwysig i lwyddiant y cynllun hwn, ac mae’n rhaid i ni sicrhau eu bod nhw’n cael cymorth hefyd, gan mai dim ond gweithlu hyderus, medrus a gwybodus sy’n gallu gwireddu’r cynllun. Cafodd y cynllun ei greu mewn partneriaeth, a rhaid ei gyflwyno mewn partneriaeth hefyd, fel bod gennym system gref, hyblyg ac effeithiol y gall Cymru ymfalchïo ynddi.”

Scroll to top

DAP WALES